Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ciniawau poeth am ddim i bob
plentyn mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn1 a blwyddyn 2.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod bod â chwant bwyd yn
effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, a bod plant
sy’n cael digon o faeth yn gwneud yn well yn yr ysgol.
Byddai ymestyn y ddarpariaeth ciniawau ysgol am ddim hefyd yn helpu
teuluoedd i dalu eu costau byw, oherwydd amcangyfrifwyd bod cinio
ysgol cyffredin ar gyfer pob plentyn yn costio £437 y
flwyddyn i rieni. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pob
plentyn rhwng pump a saith mlwydd oed yn ysgolion y wladwriaeth yn
Lloegr yn cael ciniawau ysgol am ddim. Rydym ni o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Prif ddeisebydd: Jane Dodds
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion: 14